Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (229)v3 |
1 Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
3 Datganiad gan Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth: Y wybodaeth ddiweddaraf am Burfa Murco, Aberdaugleddau (30 munud) |
4 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5614 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swydd Comisiynydd y Lluoedd Arfog. |
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) NDM5616 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gan Gymru gyfoeth o adnoddau naturiol.
2. Yn nodi'r rôl bwysig y mae dŵr yn ei chwarae o ran cynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru ar hyn o bryd ac at y dyfodol.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ffyrdd o fanteisio ar botensial dŵr i economi Cymru.
4. Yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ymgysylltu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol i sicrhau bod pwysigrwydd adnoddau dŵr i gymunedau yn cael ei nodi a gweithio tuag at gynnwys gwybodaeth ar labeli ynghylch ôl troed dŵr cynhyrchion a gwasanaethau.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn nodi'r manteision posibl y mae ynni dŵr a storfa bwmp yn eu cynnig i gynaliadwyedd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.
Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddatganoli dŵr a charffosiaeth yn llawn, gan sicrhau bod y cymhwysedd deddfwriaethol yn gyson â'r ffin cenedlaethol yn unol â'r argymhelliad yr adroddiad Silk Rhan 2.
Gellir gweld adroddiad Silk Rhan 2 yn: |
6 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) NDM5615 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r rhagolygon presennol y bydd y cytundeb consesiwn ar gyfer pontydd Hafren yn dod i ben yn 2018 a bod angen cynnal trafodaethau cynnar ynghylch system codi tollau, gwaith cynnal a chadw a pherchnogaeth y pontydd at y dyfodol.
2. Yn credu bod y system codi tollau bresennol yn faich annheg ar fusnesau, teithwyr a'r cyhoedd.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU ar gynllunio ar gyfer dyfodol y pontydd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddiddymu'r tollau ar bontydd Hafren unwaith y bydd y costau adeiladu ac atgyweirio presennol yn cael eu talu.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
4. Yn galw am drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bennu'r tollau ar bontydd Hafren, yn dilyn y consesiwn, i Lywodraeth Cymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i leihau'r tollau ar bontydd Hafren i adlewyrchu costau cynnal a chadw yn unig, ac i barhau i roi ystyriaeth i'r opsiwn tymor hir o ddileu'r tollau.
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol]
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth y DU i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ynghylch dileu'r tollau ar bontydd Hafren.
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 4 ac yn ei le rhoi:
Yn cydnabod, fel a amlinellir yn y gwaith ymchwil economaidd "Effaith Tollau'r Hafren ar Economi Cymru", bod tollau'r Hafren yn golygu cost o tua £80 miliwn i economi Cymru, ac, felly, credir y dylai Llywodraeth Cymru fod â chyfrifoldeb dros benderfyniadau am dollau yn y dyfodol.
Mae'n bosib gweld "Effaith Tollau'r Hafren ar Economi Cymru" ar y linc canlynol:
http://wales.gov.uk/statistics-and-research/impact-severn-bridge-tolls-welsh-economy/?skip=1&lang=cy |
7 Cyfnod pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 18 Tachwedd 2014